Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
05 Chwefror 2024
SL(6)449 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024 yn pennu’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25. Maent yn adlewyrchu'r penderfyniad a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2023 gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r lluosydd 5%, yn hytrach na defnyddio twf yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (“CPI”) sef 6.7%.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 23 Chwefror 2024